Pais

bawd|Merch ar siglen yn dangos ei phais wen. Llun gan Louis Denis-Valvérane.

Dilledyn isaf merch ydy pais (Saesneg: ''petticoat''); y lluosog ydy peisiau. bawd|chwith|Gellir ystyried gwisg y balerina, neu'r dilledyn modern hwn yn fath o bais. Caiff ei wisgo o dan sgert a chaiff ei ystyried yn ddilledyn isa. Daeth y bais yn boblogaidd yn yr 17g, er nad oedden nhw'n cael eu cyfrif yn ddilledyn isaf bryd hynny. Cânt eu gwisg naill ai er mwyn cadw'r corff yn gynnes, neu i roi siâp i'r sgert, neu hyd yn oed yn bryfoclyd.

Arferai'r gair olygu 'dilledyn' fel yn yr hwiangerdd honno a geir yn Y Gododdin: ''Pais Dinogad pais fraith...'' Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Pais', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Pais
    Cyhoeddwyd 2023
    Cael y testun llawn
    bookcharpter